Cymraeg, English

Mae’n wythnos Gŵyl Ddewi yng Nghymru, a chyfle i ni ddathlu diwrnod ein nawddsant trwy ganu, dawnsio, gwisgo cenhinen bedr a bwyta Cawl a chacennau bach neu deisennau cri.  Mae rhai cwmniau yn rhoi diwrnod o wyliau i’r gweithlu i ddathlu, ond nid yw’n ŵyl banc swyddogol… eto!

Mae wedi bwrw eira yma yn Felinfach bore ‘ma, ond gobeithio y bydd y stwff gwyn wedi’n gadael ni erbyn Gŵyl Tosta fydd yn dod i Theatr Felinfach ym mis Mehefin eleni.

  

Cymraeg, English

Yn dilyn gwahodd cynigion penodwyd Luned Rhys Parri o Gaernarfon yr artist preswyl ‘TOSTA CYMRU’ i fynd o Gymru i Galisia ym mis Mawrth a mis Ebrill eleni. Bydd hi’n byw ac yn gweithio yn A Coruna, ac yn cynnal gweithdai cymunedol yn ogystal â gwneud ei gwaith ei hun. Ar ôl y preswyliad, bydd y gwaith yn mynd ar daith dros Ewrop, ynghyd a gwaith gelf chwe artist arall o wledydd bychain sy’n cymryd rhan mewn preswyliadau ar yr un pryd. Cyn y Dolig, roedd Luned yn gweithio yn Y Wladfa, ac wedi arddangos ei gwaith, Patagonia ym Mhlas Glyn y Weddw. Rydym yn ddiolchgar iawn am gymorth Cyngor Celfyddydau Cymru i brosiect TOSTA.

  
Load more