Cymraeg

Tosta

Tosta band

The Tosta band is an orchestra based on diversity and made up of musicians and singers from Scotland, Galicia, Friesland, Wales, Cornwall, the Basque Country and Ireland that share small minority languages, hunger for mixing and sharing their musical roots to reinvent them all together, and bringing their small cultures to diversity of music. An ambitious project/dream that came true last year. Artists who are renowned in their countries, with high musical quality and international career became together. After months of work, the Tosta Band set up a ‘preview’ tour last year where we they achieved brilliant success.

Check the website at: www.tostabanda.com.

Cymraeg

Tosta

The Tosta Guide

A practical proposal for cultural agents who work on international projects and who want to promote respectful management practices towards minority languages.

Cymraeg

Tosta

The Tosta documentary

On 21 February 2017, International Mother Language Day, the seven minority language communities that have taken part in Tosta hosted the simultaneous premiere of the documentary about Tosta. A documentary about how seven smaller languages celebrate and stimulate the artistic creativity. A tribute to linguistic and cultural diversity in Europe. Director: Jorge Fernandez Mayoral.

Cymraeg

Tosta

Partners

Tosta is a collaboration project between cultural agents in several minority language communities of Europe’s Atlantic coast. The participating partners are: A Mesa Pola Normalización Lingüistica, Donostia / San Sebastián 2016, Sabhal Mòr Ostaig, Afûk, Euskaltzaleen Topagunea, Ag Cothú Na N-Ealaíon Sa Ghaeltacht and Depotación Da Coruña.

Cymraeg

Tosta

News

The Tosta-project was reported in many news items in all seven regions. Here you’ll find all news items about the project.

Cymraeg

Tosta

Final report & evaluation report

Here you’ll find all documents involving the report and evaluation of the Tosta-project.

Cymraeg, English, Euskara, Frysk, Gaeilge, Gàidhlig, Galego, Kernowek

We are very happy to present the members of the TOSTA-band to you; an international collaboration full of music! From each of the seven TOSTA-regions there is one band member. Together they are playing at each TOSTA festival organised in all the participating regions. Meet the band!

  

Cymraeg, English

Un canlyniad annisgwyl i broses TOSTA oedd ymweliad â Chymru gan y cerflunydd hynod o Wlad y Basg, Juan Gorriti. Bu i Juan redeg i ffwrdd o’r ysgol pan yn unarddeg oed, i fynyddoedd ei ranbarth genedigol, Nafarroa. “Y mynyddoedd oedd fy athrawon,” meddai Juan sydd, yn ystod ei fywyd hir, wedi dod yn un o artistiaid mwyaf eu parch ac enwog ei wlad. Mae o wedi arddangos ei waith yng Nghanada a’r Unol Daleithiau, yn yr Almaen a Ffrainc, yn Awstralia a Sbaen ac rydyn ni’n gobeithio gallu cael arddangosfa fawr o’i waith yn oriel Y Tabernacl ym mis Tachwedd eleni.

  

Cymraeg, English

Ar y 14eg o Fawrth, fe aeth dwy o artistiaid afieithus o dalentog gwledydd bychain Ewrop i fyw a gweithio dramor fel artistiaid preswyl prosiect TOSTA.

Y ddwy ydi Uxue Arzelus, gwneuthurwr ffilmiau ifanc o Ddonostia yng Ngwlad y Basg, a Luned Rhys Parri, yr artist celfyddyd weledol adnabyddus sy’n byw yng Nghaernarfon. Mae Uxue erbyn hyn wedi dechrau ar chwe wythnos o fywyd a gwaith fel gwestai oriel MoMA ym Machynlleth, ac eisoes wedi dechrau creu ffilm ddogfen fer yn cymharu agweddau o’r iaith a’r diwylliant Basgeg â rhai’r Cymry.

  

Cymraeg

Tosta

Y cymunedau sydd yn cymryd rhan yn Tosta

Mae ynys Tosta yn cynnwys nifer o gymunedau, pob un a’i hanes, a’i hiaith a’i hunaniaeth ei hun.

 

Y Cymunedau

Alba – Yr Alban

Mae Ucheldiroedd ac Ynysoedd yr Alban yn ysblennydd ac amrywiol ei hardaloedd. Mae’n cynnwys  rhyw 15,000 milltir sgwâr – mwy na hanner Yr Alban – ac yn gartref i tua 50,000 o bobl. Yr enw Gaeleg am Yr Ucheldiroedd yw ‘A’ Ghàidhealtachd’, sy’n draddodiadol yn cynnwys Ynysoedd y Gorllewin a’r Ucheldiroedd a’r Ynysoedd, ac felly’n cyfleu’r gwahaniaeth rhyngddyn nhw ag Iseldiroedd Yr Alban. Mae pobl yn byw yn y rhan fwyaf o’r ynysoedd ar yr arfordir gorllewinol a’r rhai mwyaf o ran maint a phoblogaeth yw Lewis a Harris. Mae gan bob ynys a phob cymuned ei chymeriad unigryw ei hun.

Dros yr 20 mlynedd diwethaf bu adfywiad yr Aeleg mewn rhannau o’r Alban, a hynny’n bennaf oherwydd poblogrwydd addysg drwy gyfrwng yr Aeleg, a bu cynnydd mawr yn nifer y siaradwyr yn nhrefi a dinasoedd yr Iseldir. Oherwydd y newid diwylliannol yma, yn enwedig yn y Parth Canolog, bathwyd y term ‘y Gàidhealtachd mwyaf’’, yn seiliedig ar y galw am ysgolion cyfrwng Gaeleg, cynnydd mewn hyder yn yr iaith a gwerthfawrogiad o ddiwylliant, cerddoriaeth a chelfyddyd Gaeleg.

 

Cymru

Mae Cymru ar hyn o bryd yn rhan o’r Deyrnas Gyfunol wedi’i ei lleoli ar ynys Prydain Fawr. Mae’n un o’r chwe gwlad Geltaidd, i’r gorllewin o Loegr, ac i’r dwyrain o Fôr Iwerddon a’r Iwerddon. Prifddinas Cymru yw Caerdydd. Y prif ieithoedd sy’n cael eu siarad yng Nghymru yw Cymraeg a Saesneg. Mae llai na thair miliwn o bobl yn byw yng Nghymru a’r mwyafrif ohonyn nhw’n byw yn y de a’r dwyrain. Mae’r Cymry yn falch iawn o’u gwlad. Y bobl gyntaf i alw eu hunain yn ‘Gymry’ oedd y Celtiaid. Roedd y Celtiaid yn byw yng Nghymru ar ôl i’r Rhufeiniad adael yn y 5ed Ganrif.

Mae arfordir Cymru yn 1680 o filltiroedd o hyd, ac mae’r wlad ei hun yn 20,779km2 mewn maint. Mae mynyddoedd uchaf Cymru yng Ngwynedd, yn y gogledd orllewin, ac yn cynnwys Yr Wyddfa, y mynydd uchaf yng Nghymru sy’n1085m (3,560 tr).

 

Euskal Herria – Gwlad y Basg

Fel yr awgryma’r enw, Gwlad y Basg yw gwlad y Basgiaid (pobl) a’r iaith Fasgeg. Mae’n cynnwys saith talaith, ac wedi ei lleoli rhwng Sbaen a Ffrainc yng ngogledd ddwyrain Penrhyn Iberia gyda Môr Cantabria ar ochr ogleddol y wlad.

Rhennir y wlad yn dair ardal weinyddol. O fewn ffiniau Sbaen mae Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg (sef Bizkaia, Araba a Gipuzkoa) a Llywodraeth Daleithiol Navarre. Mae’r Fasgeg yn iaith swyddogol yn y gymuned gyntaf ond yn rhannol swyddogol yn unig yn yr ail. O fewn ffiniau Ffrainc, ar y llaw arall, mae taleithiau Lapurdi, Behe Nafarroa and Zuberoa yn rhan o Adran y Pyrénées-Atlantiques. Nid yw’r Fasgeg yn iaith swyddogol yma.

Mae 3,000,000 o bobl yn byw yng Ngwlad y Basg. Yn ôl yr ystadegau sydd ar gael, mae 27% o’r boblogaeth yn gallu siarad Basgeg a 14% yn deall yr iaith.

 

Fryslân – Ffrisia

Talaith yw Ffrisia yn yr Iseldiroedd gyda phoblogaeth o 650,000 ac arwynebedd o 5,749km2 (2,220 milltir sgwâr)

Leeuwarden / Ljouwert yw’r brifddinas lle mae llywodraeth y dalaith yn ymgynnull a’r ddinas yma fydd Brifddinas Ddiwylliannol Ewrop yn 2018. Rhennir y dalaith yn 24 bwrdeistref sy’n cynnwys 11 dinas.

Dechreuodd Ffrisia ddatblygu tua 400-200 CC ac mae’n enwog am ei bryniau o waith dyn sy’n ei hamddiffyn rhag y môr. Cyrhaeddodd y deyrnas ei hanterth ar ddechrau’r oesoedd canol gan ymestyn o’r hyn sydd yn awr yn Wald Belg hyd at afon Weser yn yr Almaen gyda Doestad yn ganolfan fasnachu lewyrchus. Yn y canrifoedd dilynol collodd Ffrisia ei hannibyniaeth a dod yn dalaith o fewn Teyrnas Gyfunol yr Iseldiroedd.

 

Gaeltacht – Iwerddon

Mae’r term ‘Gaeltacht’ yn cael ei ddefnyddio i ddynodi’r ardaloedd yn Iwerddon lle mae’r iaith Wyddeleg yn cael ei siarad fel prif iaith y mwyafrif o’r boblogaeth leol. Mae’r Gaeltacht yn ymestyn dros rannau helaeth o siroedd Donegal, Mayo, Galway a Kerry – i gyd ar ochr arfordirol y gorllewin – a hefyd rhannau o siroedd Cork, Meath a Waterford. Yn ogystal mae chwech o ynysoedd lle mae pobl yn byw. Cyfanswm poblogaeth y Gaeltacht yw 100,716 (cyfrifiad 2011). Mae tua 15,300 o’r boblogaeth yma yn byw o fewn maestrefi Dinas Galway.

 

Galiza – Galisia

Mae Galisia yn diriogaeth wedi ei lleoli yn ngogledd orllewin Penrhyn Iberia. Mae’n ffinio gyda Môr Cantabria i’r gogledd, gyda Portiwgal i’r de, gyda Môr Iwerydd i’r gorllewin, ac i’r dwyrain gyda chymunedau Sbaenaidd Asturias a Castile-Leon.

Nid yw tiriogaeth weinyddol Galisia heddiw yn cyfateb yn union i’r Galisia hanesyddol. Yn nyffryn Eo-Navia (Asturias), yn Bierzo (talaith Leon) ac yn Portelas (Zamora) mae iaith a diwylliant Galisia yn goroesi heddiw ond gyda nifer o anawsterau. Yng nyffryn Xálima (Cáceres, Extremadura) mae amrywiad ar iaith Galisia yn cael ei defnyddio.

Maint tiriogaeth weinyddol bresennol Galisia yw 29,574 km2 gyda phoblogaeth o 2,324,544. Cafodd allfudo effaith ar Galisia yn ystod cyfnodau o’i hanes ac mae hynny’n wir am heddiw. Mae dosbarthiad y boblogaeth yn wasgaredig wedi’i threfnu yn blwyfi a rhanbarthau. Y brifddinas yw Santiago de Compostela.

 

Kernyw – Cernyw

Mae ein tir, Cernyw, yn benrhyn siâp corn sy’n ymestyn allan i’r Iwerydd yn Ne Orllewin Prydain.

Gall y gair ‘Cornwall’ gael ei gyfieithu fel ‘y dieithriaid yn y corn’ – yr ymdeimlad yma o ‘ddieithrwch’ neu’r gwahaniaeth rhwng Cernyw a Lloegr sydd mor aml yn ein diffinio. Yn hanesyddol ein diwydiannau mwyaf pwysig oedd mwyngloddio a physgota er bod y ddau wedi dirywio’n syfrdanol.

Mae poblogaeth Cernyw ychydig dros 500, 000 ac mae llai na 40% o’r boblogaeth yn diffinio eu hunain fel ‘Cernywiaid’.

Cymraeg

Tosta

Yr ieithoedd a siaredir yn Tosta

Yr ieithoedd sy’n cael eu siarad ar ynys-Tosta yw ieithoedd y rhanbarthau sy’n cymryd rhan ym mhrosiect Tosta. Maen nhw i gyd yn ieithoedd bychan sy’n cael eu defnyddio’n llai aml neu’n ieithoedd lleiafrifol. Mae pob rhanbarth yn defnyddio ei hiaith ei hun ar y wefan hon wrth gyhoeddi eitemau newyddion. Os hoffech chi gael trosolwg o’r holl eitemau newyddion sy’n cael eu cyhoeddi mewn iaith benodol, cliciwch ar un o’r tagiau iaith. Gallwch gael crynodeb yn Saesneg o’r rhan fwyaf o’r eitemau newyddion wrth ymyl yr erthygl gyfan.

 

Ieithoedd

Cymraeg

Mae dros hanner miliwn o bobl yn siarad Cymraeg, ffigwr sydd wedi cynyddu llawer am y tro cyntaf ers sawl blwyddyn. Yn hanesyddol roedd y Gymraeg yn cael ei siarad nid yn unig yng Nghymru ond yng ngogledd Lloegr a de’r Alban ond ceisiodd polisïau llywodraeth Prydain gael gwared yr iaith yng Nghymru – ond methodd. Roedd cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg yn 1588 gan William Morgan yn golygu bod yr iaith wedi cael ei safoni a’i hachub i raddau helaeth. Mae’r mudiad protest Cymdeithas yr Iaith wedi gweithredu’n ddiflino ers 1962 i adfywio’r iaith sydd erbyn hyn yn cael ei dysgu mewn ysgolion Cymraeg, a’i hamddiffyn gan deddfwriaethau ac mae’n bwerus ar y cyfryngau gan gynnwys radio a theledu.

 

Euskara – Basgeg

Basgeg, neu Euskara, yw iaith Gwlad y Basg. Mae’n cael ei siarad yng ngorllewin y Pyreneau, ar bob ochr i ffiniau Sbaen a Ffrainc. Mae tua 900,000 yn siarad yr iaith. Serch hynny, nid yw’n swyddogol ym mhob tiriogaeth ac mae hyn yn cyfyngu ar drosglwyddiad yr iaith mewn rhai ardaloedd.

Yn 1968, cytunodd academi swyddogol y Fasgeg, Euskaltzaindia, ar sylfeini creu Basgeg unedig. Heddiw, mae’r gwahaniaethau mewn tafodieithoedd wedi cael eu safoni a defnyddir y Fasgeg safonol mewn gweinyddiaeth, y system addysg, y cyfryngau a digwyddiadau diwylliannol.

Diolch i’r mudiadau cymdeithasol amrywiol sydd wedi codi yn y 50 mlynedd diwethaf, mae’r iaith yn profi adfywiad. Yn y cyfnod yma, crëwyd ysgolion (ikastola) lle mae’r plant yn gallu dysgu drwy gyfrwng y Fasgeg, ysgolion i oedolion, cymdeithasau lleol sy’n defnyddio’r iaith, mudiadau diwylliannol sy’n golygu bod yr iaith wedi ei lledaenu. Mae hyn yn gam tuag at ddysgu a normaleiddio’r iaith. O hyn ymlaen, y sialens yw cynyddu nifer y siaradwyr yn y dyfodol agos.

 

Frysk – Ffriseg

Mae 450,000 o bobl yn siarad Frysk neu Ffriseg ac mae’n un o ddwy iaith swyddogol yr Iseldiroedd.

O’r 650,000 sy’n byw yn Ffrisia mae 94% yn deall yr iaith lafar Ffriseg, 74% yn gallu siarad Ffriseg, 75% yn gallu darllen Ffriseg a 27% yn gallu ei hysgrifennu. Mae’r iaith Ffriseg dros 1,500 o flynyddoedd oed sy’n iaith Amlaenig ac yn perthyn yn agos iawn i’r Hen Saesneg. Mae iaith Gorllewin Ffrisia yn cynnwys nifer o dafodieithoedd sy’n gyd-ddealladwy i’w siaradwyr.

I dros hanner trigolion talaith Ffrisia, sef 55%, Ffriseg yw’r iaith frodorol. Ar wahân i gael ei defnyddio fel iaith gyntaf mae’r Ffriseg yn cael ei siarad fel ail iaith gan tua 120,000 o bobl. Mae’r iaith Ffriseg yn cael ei siarad ar draws y gymuned Ffrisaidd.

 

Gàidhlig – Gaeleg yr Alban

Gaeleg yr Alban yw iaith draddodiadol y Gaeliaid , ac yn hanesyddol iaith y mwyafrif yn yr Alban. Mae wedi parhau i gael ei siarad yn yr Alban ers tua’r 4ydd ganrif OC ac mae’n un o ieithoedd ysgrifenedig hynaf Ewrop. Mae gan yr Aeleg draddodiad llafar ac ysgrifenedig cyfoethog, gan mai hi oedd iaith diwylliant barddol llwythi’r Ucheldiroedd am ganrifoedd, ac mae nifer o wyliau heddiw sy’n dathlu cyfoeth llenyddiaeth, cerdd a chân yn yr Aeleg.

Dechreuodd addysg drwy gyfrwng yr Aeleg yn ddiweddar yn yr 20fed ganrif ac mae’r galw yn parhau am ysgolion cyfrwng Gaeleg. Yn ôl cyfrifiad 2011 mae nifer siaradwr Gaeleg yn Yr Alban – 58,000 – wedi sefydlogi yn bennaf oherwydd addysg cyfrwng Gaeleg. Mae gorsaf radio Gaeleg, BBC Radio nan Gàidheal wedi bod yn weithredol ers yr 1980au a dechreuodd sianel deledu ddigidol BBC Alba ddarlledu yn 2007.

 

Ghaeilge – Gwyddeleg

Mae’r Wyddeleg yn iaith Geltaidd. Mae nifer o ysgolheigion yn credu bod Gwyddeleg wedi cael ei siarad yn Iwerddon ers dros 2,500 o flynyddoedd. Mae olion cyntaf yr Hen Wyddeleg wedi eu harysgrifio ar gerrig Ogam o’r 5ed a’r 6ed ganrif. Collodd y Wyddeleg ei statws fel iaith fwyafrifol yn y 15ed a’r 16ed ganrif. Yn dilyn y newyn mawr a’r allfudo roedd yr iaith ar fin diflannu’n llwyr. Dechreuodd yr iaith gael adfywiad yn y 19eg ganrif ac mae Gwyddeleg wedi cael ei hybu gan y ddwy wladwriaeth a chyrff eraill ers hynny.

Mae delwedd yr iaith Wyddeleg wedi newid cryn dipyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn rhanbarthau’r Gaeltacht, y Wyddeleg yw iaith bob dydd y cymunedau (tua 66,238 o bobl). Yn ôl Cyfrifiad 2011 mae 1.77 miliwn o bobl yng Ngweriniaeth Iwerddon yn gallu siarad Gwyddeleg.

 

Kernewek – Cernyweg

Mae Cernyweg yn iaith Geltaidd ac yn perthyn yn agos i’r Llydaweg a’r Gymraeg. Roedd oes aur y Gernyweg efallai yn y cyfnod rhwng 1200 a 1600 AD gyda dramâu crefyddol epig yn cael eu perfformio mewn nifer o amffitheatrau awyr agored (plen an gwari).

Ond fe ddaeth y Diwygiad a gorfodi defnydd o’r iaith Saesneg yn yr eglwysi. Yn 1549 gwrthryfelodd y Cernywiaid a chafodd sawl mil o siaradwyr Cernyweg eu lladd.

Erbyn dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd yr iaith wedi marw fel iaith lafar gymunedol, er bod yna bob amser ychydig rai penderfynol oedd yn cynnal diddordeb yn yr iaith. Nawr, mae’r iaith unwaith eto yn iaith fyw ac yn rhan hanfodol o hunaniaeth pobl Cernyw.

 

O Galego – Galiseg

Mae Galiseg yn iaith Romawns. Daeth i fod tua’r wythfed ganrif fel datblygiad o Ladin llafar yn nhalaith Galisia. Yn ystod yr oesoedd canol roedd iaith Galisia heddiw a gogledd Portiwgal yr un fath. Gyda Galisia yn colli grym gwleidyddol yn raddol a hunaniaeth Portiwgal yn canolbwyntio ar Lisbon fe welwyd y mân wahaniaethau cyntaf rhwng y ddwy iaith yn datblygu. Fe aeth y gwahaniaethau yn fwy gan i’r ddwy iaith gymryd llwybrau gwahanol mewn canrifoedd dilynol ynghyd â phwysedd y Sbaeneg ar yr iaith Aliseg.

Ar ôl yr Oesoedd Canol gorchfygwyd Galisia a gorfodwyd y defnydd o Sbaeneg ym mhob maes o fywyd. Galiseg oedd iaith mwyafrif y boblogaeth ond ni wnaeth ad-ennill y defnydd o ysgrifen hyd at ganol y 19G. Ym 1980 gwnaeth y Statud Ymreolaeth gydnabod yr Aliseg fel iaith gyd-swyddogol. Dechreuwyd deddfu ynglŷn â defnydd o’r iaith er mwyn sicrhau ei hadferiad mewn gwahanol rannau o gymdeithas, ond nid oedd y ddeddfwriaeth yma’n ddigon grymus ac mae llawer o feysydd cymdeithasol yn dal i gau allan yr Aliseg. Er gwaethaf datblygiadau’r degawdau diwethaf, mae’n fater gofid fod gostyngiad yn nifer siaradwyr yr iaith mewn ardaloedd dinesig ac ymhlith plant a phobl ifanc wedi cyflymu.

Cymraeg

Tosta

Ynglŷn ậ Tosta

Mae Tosta yn brosiect cydweithredol rhwng asiantaethau diwylliannol mewn nifer o gymunedau iaith leiafrifol ar arfordir yr Iwerydd yn Ewrop. Bydd hefyd yn gweithredu fel cennad teithiol yn dathlu Donostia / San Sebastian fel Prifddinas Diwylliant Ewrop yn 2016. Mae’r prosiect yn gyfuniad o hybu creadigrwydd artistig, dathlu amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol a rheolaeth gytbwys o ieithoedd lleol mewn prosiect rhyngwladol.

Lees meer

Load more